Y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf gyda Rhwyfo Cymru
Wavemakers
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 200 o “Wave Makers” gwirfoddol ar gyfer Pencampwriaethau Arfordirol Rhwyfo'r Byd, sy’n cael eu cynnal yn Saundersfoot ym mis Hydref 2022.
Gallech chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o swyddogaethau, a does dim angen unrhyw brofiad rhwyfo arnoch chi i gymryd rhan.
Pam gwirfoddoli yn y byd rhwyfo?
Os ydych chi’n gefnogwr rhwyfo ac eisiau cefnogi’r gamp yng Nghymru, rydyn ni bob amser yn chwilio am unigolion i’n helpu ni yn Rhwyfo Cymru. Gall gwirfoddolwyr helpu ar y dŵr neu oddi arno, mewn clybiau neu ddigwyddiadau.
Os ydych chi'n rhwyfwr neu'n gyn-rwyfwr eich hun, os oes gennych chi anwyliaid sy'n frwd dros rwyfo, neu os ydych chi'n chwilio am ffordd i roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, edrychwch ar yr opsiynau isod neu cysylltwch â ni i weld sut gallwch chi helpu.
Hyfforddwyr a hyfforddwyr cynorthwyol
Mae hyfforddwyr yn cynnal sesiynau hyfforddi, yn gwella techneg rhwyfwyr, ac yn sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn symud ymlaen tuag at eu nodau. Gall unrhyw un dros 18 oed wirfoddoli fel hyfforddwr cynorthwyol heb gymwysterau, neu gwblhau un o’n rhaglenni hyfforddi os hoffech chi hyfforddi’n annibynnol.
Dyfarnwyr
Mae Pwyllgor Dyfarnwyr Rhwyfo Cymru yn trefnu cyrsiau hyfforddi yn rheolaidd ar gyfer y rhai sy'n dymuno bod yn ddyfarnwyr, a DPP ar gyfer dyfarnwyr presennol. Mae'r rôl hon yn allweddol i weithredu digwyddiadau yn llwyddiannus, a byddai rhai yn dadlau mai dyma’r sedd orau yn y tŷ!
Cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb mewn dyfarnu
Cynorthwywyr mewn digwyddiadau
Mae angen nifer fawr iawn o bobl ar gyfer pob digwyddiad rhwyfo i'w helpu i redeg yn llyfn ac yn llwyddiannus. Mae tasgau gwirfoddolwyr yn amrywio o drefnu ymwelwyr i hyrwyddo’r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol i annog mwy o bobl i fynychu, felly mae rhywbeth addas i bob cyfres o sgiliau.