Mae ein Rhaglen Cefnogi Athletwyr yn golygu y gallwn gefnogi nifer o rwyfwyr hynod lwyddiannus bob blwyddyn wrth iddynt anelu at gynrychioli Prydain Fawr yn rhyngwladol.
Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rhwyfo yn y Regata Ryngwladol Gartref, yn ogystal â'r meini prawf isod, mae croeso i chi wneud cais am gyllid.
Meini prawf cefnogi
Mae gwybodaeth fanwl am ein meini prawf ar gael yma.
Pecynnau cefnogi
Pecyn Cefnogi Lefel 2
Mae Pecyn Cefnogi Lefel 2 yn cynnwys:
- Gwahoddiad agored i sesiynau hyfforddi ‘Dechrau’ yng Nghaerdydd
- Yr hawl i ofyn am fynediad i ffisio-sgrinio/triniaeth a chefnogaeth ffordd o fyw yn perfformio
- Yr hawl i ofyn am fenthyg offer
- Yr hawl i ofyn am gymorth ariannol i leihau costau cynrychioli Tîm Rhwyfo Prydain Fawr (GBRT).
- Pecyn cit yn cynnwys het, crys-t, hwdi a photel ddŵr
Pecyn Cefnogi Lefel 3
Mae Pecyn Cefnogi Lefel 3 yn cynnwys:
- Defnydd am ddim o’r gampfa a’r gampfa cardio yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
- Yr hawl i ofyn am wasanaethau cefnogi gan gynnwys ffisiotherapi, maeth, ffordd o fyw yn perfformio, ffisioleg, seicoleg, cryfder a chyflyru, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb
- Yr hawl i ofyn am gymorth ariannol
- Yr hawl i ofyn am fenthyg offer
- Agor cais am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw eitemau eraill a allai helpu i gyrraedd GBRT
- Pecyn cit yn cynnwys popeth sydd yng nghit Lefel 2 ac AIO, legins a thop technolegol
Sylwch bod swm y gefnogaeth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr a'r adnoddau sydd ar gael mewn blwyddyn benodol.
Esiamplau o athletwyr sydd wedi’u cefnogi yn flaenorol:
- Beccy Muzerie
- Tom Barras
- Angharad Broughton
- Joshua Bugajski
- Benjamin Pritchard
Os ydych chi'n meddwl y gallech chi gyrraedd y safon i fod yn athletwr a gefnogir dilynwch y broses yma.